MNDA-North-West-Wales-Group-Banner-cymraeg

Newyddion & Digwyddiadau

12.10.25 Diwrnod I’r Dyddiadur - Cyfarfod Cefnogi Gofalwyr Yn Tachwedd

A ydych chi'n gofalu am neu gydag aelod o'r teulu sy'n byw efo Motor Niwron? Mae croeso cynnes i chi ddod i'n Cyfarfod Cefnogi Gofalwyr yng nghaffi Menter Cymunedol Bethel (LL55 1AX) ar Dachwedd 3ydd am 2yh.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

Llun o blat gyda cacen a panad o de

11 + 12.09.25 Casglu Arian Yn Morrisons Caernarfon

Bu ein grŵp yn cynnal casgliad yn Morrisons Caernarfon ym mis Medi. Diolchwn yn fawr i'r holl wirfoddolwyr, gan gynnwys Bev Bournier o HSBC, fu'n cynorthwyo ni i gasglu £567.73. Unwaith eto bydd yr arian yma yn fudd mawr i bobl yn yr ardal sy'n byw gyda Motor Niwron.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau y gwirfoddolwyr

Gwifoddolwyr yn casglu arian yn Morrisons Caernarfon ar gyfer bobl o'r ardal sy'n byw gyda Motor Niwron

21 + 22.08.25 Casglu Arian Yn Tesco Caernarfon

Bu ein grŵp yn cynnal casgliad yn Tesco Caernarfon ar y ddau ddiwrnod yma. Diolchwn yn fawr i wirfoddolwyr o staff HSBC, i bawb arall fu'n gwirfoddoli, ac i bob un o gwsmeriaid Tesco a gyfrannodd tuag at y £978.36 a gasglwyd tuag at bobl o'r ardal sy'n byw gyda Motor Niwron.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau Casglu Arian Yn Tesco Caernarfon

Gwifoddolwyr yn casglu arian yn Tesco Caernarfon ar gyfer bobl o'r ardal sy'n byw gyda Motor Niwron

13.08.25 Casgliad Stryd ym Mhwllheli

Diolch yn fawr i'r gwirfoddolwyr fu'n casglu ar strydoedd Pwllheli ar Ddydd Mercher Awst 13. Yn ystod y diwrnod casglwyd £526.41 i helpu pobl sy'n byw gyda Chlefyd Motor Niwron yn yr ardal.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau o'r Gwirfoddolwyr ym Mhwllheli

Person y gafael mewn bwced Chlefyd Motor Niwron yn Pwllheli

5.07.25 Casglu Arian yn Tesco Extra

Diolchwn yn fawr i Tesco Extra ar gyrion Bangor am gael cynnal casgliad ar Ddydd Sadwrn, Gorffennaf 5ed. Diolchwn yn fawr i bawb fu'n gwirfoddoli ac i bob un o gwsmeriaid Tesco gyfrannodd a helpu ni i gasglu £486.64 er mwyn helpu pobl sydd yn byw Gyda Chlefyd Motor Niwron yn yr ardal.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau o'r gwirfoddolwyr

Georgina gwirfoddolwr gyda bwced casglu yn Tesco Extra

09.06.25 Bore Coffi yn Codi £250

Diolchwn yn fawr i Alison Watson o Aliscrafts, Penmaenmawr ar ôl iddi gynnal bore coffi (gyda theisennau gwych!) yn ei siop yn ddiweddar. Diolchwn hefyd i bawb gefnogodd y digwyddiad a rhoddi gwobrau raffl ayyb. Cynhaliwyd y digwyddiad i gefnogi Clefyd Motor Niwron ac Ymchwil Cancr Gogledd Orllewin ac fe godwyd £500. Yn y llun mae Alison yn trosglwyddo £250 i Georgina (un o'n gwirfoddolwyr) cyn ein cyfarfod misol yn Tŷ Golchi.

Alison yn cyflwyno £250 i Georgina, gwirfoddolwr Grwp Cefnogi MND

26.05.25 Capten Y Merched Yn Codi £1700

Mae Helen Roberts wedi bod yn brysur iawn trwy ei blwyddyn fel Capten Merched Clwb Golff Llanfairfechan yn trefnu gweithgareddau amrywiol i godi arian tuag at helpu'r rhai sy'n dioddef o Glefyd Motor Niwron yn ein hardal. Dyma Helen ac Eirlys yn cyflwyno siec am £1700 i'n Trysorydd Bill Griffiths. Diolchwn yn fawr iawn i aelodau Clwb Golff Llanfairfechan am gefnogi Helen yn ei hymgyrch drwy gydol y flwyddyn.

Helen ac Eirlys yn cyflwyno siec am £1700

10.05.25 Dosbarth Cwiltio Llangernyw Yn Codi £1400

Ar Fai 10fed cynhaliwyd Bore Coffi ac Arddangosfa o waith Merched Dosbarth Cwiltio Llangernyw i godi arian tuag at Glefyd Motor Niwron. Diolch o galon i bawb ddaeth i helpu gwneud y diwrnod mor llwyddiannus a diolch hefyd i'r rhai ddaeth i gefnogi. Mae'r digwyddiad wedi codi £1400 tuag at Ymchwil CMN. Mae'r lluniau yn dangos dim ond sampl bach o'r gwaith gafodd ei arddangos. Daeth Eirwen Evans o'r Cwiltwyr i'r cyfarfod Mai yn Nhŷ Golchi.

Cliciwch yma i weld lluniau ychydig o'r gwaith o'r arddangosfa

cynnyrch gwahanol sydd ar gael

26.04.25 Casglu Arian Yn Asda, Pwllheli

Diolch yn fawr i Lynwen Elena Griffith, ein Ymwelydd Cysylltiol (Association Visitor), am drefnu casgliad yn Asda, Pwllheli ar Ddydd Sadwrn, Ebrill 26ain. Casglwyd £518.95 i'n grŵp gan Lynwen a'r gwirfoddolwyr eraill. Diolchwn hefyd i Joe Scott a'i staff, a chwsmeriaid Asda, am gefnogi ein helusen a gwneud gwahaniaeth i bobl sy'n byw gyda Chlefyd Motor Niwron yn ein hardal.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau casglu arian yn Asda, Pwllheli

Trysorydd Bill Griffith yn derbyn arian gan Conwy Valley Enduro Club

12.02.25 Rhodd

Roedd yn braf gweld pawb yn ein cyfarfod cyntaf o 2025. Diolch i Kathryn Keir o Ystafell De Tyddyn Mawr yng Nghwmystradllyn am ddod atom i gyflwyno rhodd o £739, a godwyd mewn cyngerdd er cof am ei thad a gollodd i Fotor Niwron ddeg mlynedd yn ôl. Roedd yn gyfle hefyd i weld y tabardau newydd sy'n cael eu modelu gan Georgina a Vera.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

Kathryn Keir o Ystafell De Tyddyn Mawr yng Nghwmystradllyn am ddod atom i gyflwyno rhodd o £739 , yn sefyll ochr i ochr i Georgina a Vera yn gwysgo yr tabardau newydd

13.11.24 Cerdded 100 Milltir Yn Medi

Roedd yn braf cyfarfod Donna Owen yn ystod cyfarfod o'n Grŵp Cefnogi heddiw. Mae brawd, Gavin Morris o Gaergybi, yn byw Gyda Chlefyd Motor Niwron, ac ym mis Medi fe gerddodd 100 milltir i godi arian i'n grŵp. Gyda phobl wedi noddi ar JustGiving hefyd, llwyddodd Donna i godi cyfanswm o £1205! Yn y llun gwelir Donna gyda Bill Griffiths, Trysorydd y grŵp, a Jennifer Roberts, Ysgrifennydd y grŵp.

Donna gyda Bill Griffiths, Trysorydd y grŵp, a Jennifer Roberts, Ysgrifennydd y grŵp

07.09.24 Conwy Valley Enduro Club

Ar Ddydd Sadwrn Medi 7fed, cynhaliwyd taith noddedig 12 awr ar feiciau modur gan y Conwy Valley Enduro Club i godi arian i'n grwp. Codwyd £2265 ac rydym yn diolch yn fawr i'r Enduro Club ac i bawb oedd wedi eu noddi mor ffeind a hael. Aeth ein Trysorydd Bill Griffith draw i'r clwb i dderbyn yr arian.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau o'r cyflwyniad

Trysorydd Bill Griffith yn derbyn arian gan Conwy Valley Enduro Club

22.08.24 Casglu Arian Yn Morrisons, Caergybi

Bu ein grŵp yn cynnal casgliad yn Morrisons, Caergybi ar Ddydd Iau Awst 22, ble casglwyd £348.95. Diolchwn yn fawr iawn i Morrisons a'u cwsmeriaid am gefnogi ein helusen a gwneud gwahaniaeth i bobl sy'n byw gyda Chlefyd Motor Niwron yn ein hardal.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau Casglu Arian Yn Morrisons, Caergybi

Dau person yn gafael bwced casgliad arian Yn Morrisons, Caergybi

14.08.24 Casglu ar y Stryd ym Mhwllheli

Diolch yn fawr iawn i'r holl wirfoddolwyr ddaeth i Bwllheli i gasglu arian i'n grŵp ar Awst 14eg. Rhyngddynt casglwyd £466.94 i gynorthwyo pobl sy'n byw gyda Chlefyd Motor Niwron yn yr ardal.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau o'r Gwirfoddolwyr ym Mhwllheli

Dau person yn cynnal casgliad yn Morrisons, Caernarfon

28.07.24 Bore Coffi Yn Codi £5,792,75

Mae Lynwen Elena Griffith yn gwirfoddoli fel Ymwelydd Cysylltiol (AV) i'n grŵp ac mae hi wedi bod yn brysur yn codi arian. Gyda chefnogaeth ei ffrindiau fe gynhaliodd Ocsiwn ar y cyfryngau cymdeithasol, a bore coffi yng Nghlwb Rygbi Efailnewydd ar Orffennaf 28. Dyma'r swm a godwyd tuag at bobl sy'n byw gyda Chlefyd Motor Niwron yn yr ardal yma - £5,792,75!! Dywed Lynwen "Diolch i bawb, a diolch i HSBC Pwllheli am y cyfraniad o £2,000 tuag at yr achos. Mae’r holl roddion a chefnogaeth y gymuned wedi bod yn anhygoel. Mae’r achos yma yn agos at fy nghalon, nid yn unig drwy fy ngwaith gwirfoddoli ond oherwydd ffrind arbennig sydd werth y byd i lawer ohonom sydd yn brwydro'r clefyd yma." Gwelir Lynwen (ail o'r dde) gyda rhai o'r bobl oedd yn ei chefnogi.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau o'r Bore Coffi

Pobl yn gafael banner MNDA

26 + 27.07.24 Casglu Arian Yn Tesco Extra, Caergybi

Bu ein grŵp yn cynnal casgliad yn Tesco Extra, Caergybi ar y ddau ddiwrnod yma. Diolchwn yn fawr i bawb fu'n gwirfoddoli ac i bawb a gyfrannodd a helpu i gasglu £1,155.67.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau Casglu Arian Yn Tesco Extra, Caergybi

Dau person yn cynnal casgliad yn Tesco Extra, Caergybi

20.07.24 Casglu Arian Yn Morrisons, Caernarfon

Aeth ein grŵp i gynnal casgliad yn Morrisons, Caernarfon Ddydd Sadwrn Gorffennaf 20, ble casglwyd £485.39. Diolchwn yn fawr iawn i Morrisons am gefnogi ein helusen, a diolchwn i'r cwsmeriaid a gyfrannodd i gefnogi pobl sy'n byw gyda Chlefyd Motor Niwron yn ein hardal.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau Casglu Arian Yn Morrisons, Caernarfon

Dau person yn cynnal casgliad yn Morrisons, Caernarfon

07 + 08.06.24 Casglu Arian Yn Tesco Extra, Bangor

Bu ein grŵp yn cynnal casgliad yn Tesco Extra, Bangor ar Ddydd Gwener Mehefin 7 a Dydd Sadwrn Mehefin 8. Casglwyd £1,047.68 dros y ddau ddiwrnod, a diolchwn yn fawr i'r holl wirfoddolwyr ac i gwsmeriaid Tesco.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau Casglu Arian Yn Tesco Extra, Bangor

grŵp yn cynnal casgliad yn Tesco Extra, Bangor

10.06.24 Ffilm Fer Am Ein Gwaith

Rydym yn falch iawn o gael rhannu ffilm fer gyda chi am y gwaith mae Cymdeithas Clefyd Motor Niwron yn ei wneud yng Nghymru. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno gyda'n tîm arbennig o wirfoddolwyr, yna mae gennym nifer o gyfleoedd ar gael. Am sgwrs anffurfiol cysylltwch gyda jo.cunnah@mndassociation.org.

Cliciwch yma am ffilm fer am ein gwaith.

27.03.24 Casglu Arian yn Asda, Pwllheli

Diolchwn i'r gwirfoddolwyr fu yn casglu arian yn ASDA Pwllheli ar Ddydd Sadwrn Chwefror 17. Casglwyd £682.31 ar y diwrnod. Wedyn mewn noson Bingo yn Edern, ble tynnwyd raffl a roddwyd gan Asda, fe godwyd £169.00 arall, sy’n gwneud cyfanswm gwych o £852.31. Bydd yr arian yma yn mynd i gefnogi pobl sy'n byw gyda Chlefyd Motor Niwron yn ein hardal.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau o casglu arian yn Asda Pwllheli.

Bucket Collection at asda

13.03.24 Cyfarfod Misol yn Tŷ Golchi

Mae caffi Tŷ Golchi wedi bod ar gau am ychydig o fisoedd oherwydd tân, ond heddiw cafodd ein grŵp ddychwelyd yno ac roedd yna groeso cynnes i ni fel arfer. Mae'r cyfarfodydd yma ar gyfer pobl sy'n byw gyda CMN ac aelod o'u teulu neu ofalwr. Maent yn anffurfiol ac yn gyfeillgar ac nid oes agenda. Cynhelir hwy gan wirfoddolwyr o'r Grŵp Cefnogi Gogledd Orllewin Cymru ac fe gewch groeso cynnes. Byddwn yn cyfarfod ar yr ail Ddydd Mercher o'r mis (am 2:30yh), a gallwch aros am ychydig o funudau neu aros am y cyfarfod cyfan.

Casglu Arian Yn Tesco Caernarfon

MNDA Support Meeting

Cyfarfod Nesaf

Mae'r cyfarfod cefnogi nesaf yn Ty Golchi, Caernarfon Road, Bangor LL57 4BT ar Dydd Mercher Tachwedd 12 am 2:30yh.

MND Connect - 0808 802 6262

Donate to MNDA

Rhoddi

JustGiving
Mae gennym dudalen JustGiving ble gallwch wneud rhodd ar-lein - cliciwch yma

 

© 2025 Cymdeithas Clefyd Motor Niwron Gogledd Orllewin Cymru. Cedwir pob hawl. Gwefan wedi'i Dylunio a'i Noddi gan Delwedd.